Blwyddyn 6

Cwis Llyfrau

Thursday, May 21st, 2015

Llongyfarchiadau i dîm Cwis Llyfrau Blwyddyn 6 am ddod yn ail yn y Sir. Diolch yn fawr i:
Tomos Moynihan,Catrin Llywelyn, Aneurin Morse, Steffan Thomas, Gwion Rhisiart, Elina Dineen, Megan Thomas ac Osian Davies.

 

Arbedwyr Ynni Blwyddyn 6!

Tuesday, May 5th, 2015

???????????????????????????????

Llongyfarchiadau i Flwyddyn 6 Mr Williams am arbed ynni yn ystod y tymor.

Côr Cymru Cynradd 2015

Tuesday, April 21st, 2015

Da iawn i bawb! Diolch am eich holl waith caled!

 

Os ydych am weld y rhaglen, cliciwch ar y linc isod:-

 

Côr Cymru Cynradd

Presenoldeb

Thursday, March 5th, 2015

Presenoldeb 6J yn ystod Mis Chwefror- 96.8%

Presenoldeb 6W yn ystod Mis Chwefror- 98.2%

Diwrnod y Llyfr

Thursday, March 5th, 2015

Mae plant Blwyddyn 6 wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yr wythnos hon yn ysgrifennu storiau ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Edrychwch ar ‘Flickr’ er mwyn cael blas o’r dathlu.

Cogurdd

Thursday, March 5th, 2015

Llongyfarchiadau i Isabel Amphlett am ennill Cystadleuaeth Cogurdd Ysgol y Wern. Pob lwc i ti yn y rownd nesaf. Llongyfarchiadau hefyd i Gethin Price(ail) a Paige Cooke(3ydd)

Bardd y Gadair 2015

Monday, March 2nd, 2015

DSC00605

Bardd y Gadair 2015 – Aneurin Morse Bl.6

Llongyfarchiadau mawr i ti.

Llongyfarchiadau hefyd i Rémy Segrott (2il) a Megan Thomas (3ydd).

Diolch i Llwyd Owen am ei barodrwydd unwaith eto eleni i feirniadu’r gystadleuaeth.

Llys yr Ynadon

Thursday, February 5th, 2015

 

Diolch yn fawr i aelodau o’r Ynadon a ddaeth mewn i’r dosbarth i gynnal ffug dreial gyda’r plant. Ar ôl pendroni am amser hir dros y dystiolaeth dyfarnwyd Mr Jo Jenkins yn euog o achosi difrod i dyrbin gwynt.

Ymweliad â’r Senedd

Thursday, February 5th, 2015

Diolch yn fawr iawn i Mr Richard Jones(tad Manon) am ein tywys o gwmpas y Senedd ddoe. Gwnaeth y plant fwynhau’r cyfle o fynegi barn  a dysgu mwy am y Senedd. Daeth y cyfan yn fyw ar ddiwedd yr ymweliad wrth i ni gael cyfle i wylio sesiwn holi cwestiynau i’r Prif Weinidog ar lawr y siambr.

Diwrnod Defnyddio’r Wê yn Fwy Diogel 2015

Monday, February 2nd, 2015

Dewch i ddathlu ‘Defnyddio’r Wê’n Fwy Diogel’ gyda phawb dros y byd!

Er mwyn dathlu ‘Diwrnod Defnyddio’r We yn Fwy Diogel 2015’ ar y 10fed o Chwefror, rydym ni am gynnal cystadleuaeth creu poster fydd yn hysbysu disgyblion ein hysgol ar sut i ddefnyddio’r wê yn ddiogel.

Gallech gynnwys negeseuon megis ‘Defnyddiwch y wê yn ddiogel,  ‘ Cadwch eich cyfeiriad yn gyfrinach’ , ‘Byddwch yn gwrtais wrth ddanfon neges ar-lein’ neu ‘ Peidiwch â chredu popeth ar y wê’.

Defnyddiwch ‘Paint’ neu unrhyw rhaglen graffeg addas ar eich cyfrifiadur i greu eich poster.

Fe fydd y poster sy’n ennill  angen sicrhau:

  • Cywirdeb Iaith
  • Neges glir am sut i fod yn ddiogel ar y wê

E-bostiwch eich posteri i ysgolywern@cardiff.gov.uk. Rhowch y geiriau-  Poster Rhyngrwyd ac enw a dosbarth eich plentyn yn y blwch Testun/Subject.

Dyddiad Cau- 9fed o Chwefror

Pob Lwc!

Mr Wason

 

Digwyddiadau

HMS Blwyddyn 2026-2027

Fe fydd diwrnodau H.M.S. ar y dyddiadau canlynol:- Dydd Mawrth- 1.9.26 Dydd Gwener- 25.9.26 Dydd Mercher- 7.10.26 Dydd Llun 4.1.27…

mwy…

Nos Wener Gorffennaf 11eg- Ffair Haf

Nos Wener Gorffennaf 11eg– Ffair Haf (Y Gymdeithas Rhieni)

mwy…

Digwyddiadau CRhA

Dydd Gwener  Mawrth 14eg –         Noson Gwis Dydd Gwyl Dewi Dydd Iau Ebrill 10fed   – …

mwy…

Fideo Ysgol

Hwb