Blwyddyn 6

Eisteddfod Yr Urdd

Thursday, May 26th, 2016

Dymunwn pob lwc i Elen Morlais, Osian James a’r Parti Cerdd Dant wythnos nesaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fflint. Mwynhewch!

Cinderella

Tuesday, May 24th, 2016

Pob lwc i Ffion Thomas a fydd yn perfformio yn Cinderella yn y ‘New Theatre’ wythnos nesaf. Da iawn ti!

Cwis Llyfrau

Monday, May 23rd, 2016

Llongyfarchiadau i’r Cwis Llyfrau a ddaeth yn ail yn y cyflwyniad ac yn drydydd yn y gystadleuaeth. Diolch i chi am eich hymroddiad a gwaith called.

 

Llwyddiant Celf

Friday, May 20th, 2016

Llongyfarchiadau i Griff Evans am ddod yn gyntaf yn genedlaethol yn y gystadleuaeth 2D.

Cystadleuaeth Gwyddbwyll yr Ysgol

Sunday, May 15th, 2016

Wythnos gyffrous i ddisgyblion y clwb Gwyddbwyll!
Dydd Mercher – Rownd yr Wyth Olaf
 
Jonathan Davies   v   Iestyn Moynihan
Carys Davies   v   Dafydd Richards
Ethan Isaac   v   Griff Evans
Rhys Matthews   v   Tom Davies or Gethin Marshall*
 
(Rhaid i Tom a Gethin cael cyfle i chwarae ei gilydd yn gyntaf)
 
 
Dydd Iau- Rownd yr Wyth Olaf
 
Mabon Melbourne   v   Mali Melbourne
Tom Payne   v   Lloyd Lucas
Tom Prickett   v   Daniel Rowlands
Reggie Burgess   v   Dylan Barr
 
Fe fydd y goreuon o’r ddau rownd yn chwarae ei gilydd ar ôl hanner tymor.
Pob lwc i bawb!

Llwyddiant Gymnasteg Cenedlaethol

Wednesday, April 20th, 2016

Llongyfarchiadau i Efa Rogers o ddosbarth 6 T a ddaeth yn fuddugol ym Mhencampwriaeth Gymnasteg Cymru o dan 12 dros y penwythnos.

Y Criw Menter

Wednesday, March 23rd, 2016

Cafodd criw menter yr ysgol, ‘Y Wern Ar Waith’, ddiwrnod arbennig yn Rownd Derfynol Genedlaethol Y Criw Mentrus ym Mhrofiad Dr.Who yn y Bae. Llongyfarchiadau i Rhys Leach a gafodd y wobr am Seren y Dydd fel yr unigolyn mwyaf disglair trwy Gymru. Da iawn ti!

Eisteddfod yr Urdd

Monday, March 21st, 2016

Llongyfarchiadau i aelodau o’r Parti Cerdd Dant am gyrraedd y brig yn yr Eisteddfod Sir. Llongyfarchiadau hefyd i Elen Morlais am ennill y ddawns unigol i ferched dan 16 ac i Osian James am ennill yr unawd gitar. Mae’r ddau a’r Parti Cerdd Dant yn mynd ymlaen i gynrychioli’r Sir yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fflint yn ystod y Sulgwyn.

Gwyddbwyll

Thursday, March 17th, 2016

Llongyfarchiadau i Ethan Isaac a Dafydd Richards o Flwyddyn 6 a gynrychiolodd tîm Morgannwg dan 11 oed ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll Cymru. Maent yn mynd ymlaen nawr i rownd derfynol Pencampwriaeth Gwyddbwyll Prydain.

Gymnasteg

Monday, March 7th, 2016

Llongyfarchiadau i Hannah Williams, Efa Rogers a Jessica Parkin o Flwyddyn 6 a fuodd yn Stoke on Trent yn cynrychioli Cymru ym Mhencamwriaeth Gymnasteg Prydain.

Digwyddiadau

Diwrnodau HMS

Fe fydd Dydd Llun 1/9 a Dydd Mawrth 2/9 yn diwrnodau HMS   Disgyblion yn dod ar Ddydd Mercher 3/9.

mwy…

Nos Wener Gorffennaf 11eg- Ffair Haf

Nos Wener Gorffennaf 11eg– Ffair Haf (Y Gymdeithas Rhieni)

mwy…

Dydd Mawrth Gorffennaf 1af- Cyfarfod Rhieni Newydd Meithrin

Dydd Mawrth Gorffennaf 1af- Cyfarfod Rhieni Newydd Meithrin 10 a.m (coffi o 9.30 a.m)

mwy…

Fideo Ysgol

Hwb