Yng Nghymru, rydym am i’n holl ddisgyblion gyflawni llwyddiant felly mae’n bwysig fod rhieni yn gwneud eu gorau glas i gefnogi disgyblion i fynychu ysgol am y 190 o ddiwrnodau o fewn y flwyddyn academaidd lawn, fel y nodir yn Rheoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2006.
O dan y Ddeddf Addysg (1996), mae’n gyfrifoldeb i’r rhieni sicrhau fod eu mab/ merch yn mynychu ysgol.
Mae presenoldeb ysgol rheolaidd yn hanfodol a gall colli ysgol gael effaith arwyddocaol ar gyflawniad dros gyfnod o flwyddyn fel y nodir isod:
Ni fydd yr ysgol yn awdurdodi unrhyw absenoldebau a achosir gan wyliau adeg tymor. Golyga hyn y caiff absenoldebau a achosir gan ddisgyblion yn cymryd gwyliau adeg tymor, eu cofnodi fel rhai anawdurdodedig.