CRhA

Prif nod Pwyllgor Rhieni ac Athrawon Ysgol y Wern yw i godi arian, i helpu i ariannu gweithgareddau allgyrsiol yn yr ysgol. Rydym yn gwneud hyn drwy drefnu digwyddiadau i’r plant (disgo), i’r teulu (ffeiriau Nadolig a Haf), ac i oedolion (noson gyri a rasus, noson siopa, dawns haf). Mae’r arian wedi helpu i dalu am fysiau ar gyfer tripiau ysgol, offer technoleg, ac, yn fwyaf diweddar, ardal chwaraeon newydd ar y buarth.

Mae croeso mawr i bawb i ymuno â ni! Wrth wirfoddoli, mae rhieni yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i addysg eu plant, ac yn cael bod yn rhan o grwp cyfeillgar a chymdeithasol.

Cysylltwch â ni ar crysgolywern@hotmail.co.uk

Digwyddiadau

Digwyddiadau CRhA

Dydd Gwener  Mawrth 14eg –         Noson Gwis Dydd Gwyl Dewi Dydd Iau Ebrill 10fed   – …

mwy…

Diwrnod Y Llyfr 6ed o Fawrth

Pe dymunir gall y plant wisgo lan fel cymeriad allan o lyfr.

mwy…

Diwrnod HMS

Diwrnod HMS- 6ed o Ionawr 2025

mwy…

Fideo Ysgol

Hwb