Diolch i dad Manon Davis a ddaeth atom i siarad am swyddogaeth y galon.
Blwyddyn 6
Atgofion o’r Rhyfel
Tuesday, October 13th, 2015
Diolch yn fawr i Famgu Efa Rogers a ddaeth mewn i’r dosbarth i sôn am ei phrofiadau hi a’i theulu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafwyd gwledd yn y dosbarth lle gwnaeth hel atgofion yn ogystal â dangos hen lythyron a ysgrifennwyd rhyngddi hi a’i thad. Buodd Dafydd Richards o ddosbarth Mr Thomas yn ffodus iawn i wisgo gwisg milwr ei thad a oedd yn gapten yn y fyddin.
Presenoldeb Medi
Wednesday, October 7th, 2015
Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Ein presenoldeb ym mis Medi oedd:
6J – 99.0%
6T – 95.7%
Carfan Rygbi Ysgolion Caerdydd a’r Fro
Tuesday, October 6th, 2015
Llongyfarchiadau mawr i Ifan Cox a Thomas Meek ar gael eu dewis ar gyfer carfan rygbi Ysgolion Caerdydd a’r Fro. Pob lwc i chi’ch dau!
Croeso i Flwyddyn 6
Monday, September 7th, 2015
Dyma ni wedi cyrraedd brig yr ysgol o’r diwedd. Ceir dau ddosbarth yn y Flwyddyn sef Dosbarth Mrs Jones (29 o blant) a Dosbarth Mr Thomas (29 o blant). Rydym wedi dechrau’r tymor newydd gyda meddylfryd o dwf ac felly’n barod i wynebu unrhyw her yn ystod y flwyddyn.
Ein cyd-destun dysgu y tymor yma yw ‘Gyda’n Gilydd’ sydd wedi ei seilio ar Yr Ail Ryfel Byd. Edrychwn ymlaen at ein hymweliad â Chastell Caerdydd (Medi 9fed) ble cawn gyfle i ddysgu mwy am sut oedd trigolion Caerdydd yn chwilio am loches yn nhwneli’r Castell yn ystod y cyrchoedd awyr.
Byddwn yn gwerthfawrogi pe baech yn gallu mynychu Noson Gyflwyno’r Flwyddyn ar Fedi 16eg ble byddwn yn rhoi trosolwg o waith y Flwyddyn a chynnwys awgrymiadau ar ffyrdd i chi gefnogi dysgu eich plentyn adref.
Dehongli’r Canlyniadau
Tuesday, July 7th, 2015
Cliciwch yma i weld fideo ar ganllaw sut i ddehongli canlyniadau Profion Rhifedd a Darllen Cenedlaethol eich plentyn.
Gwers Ffrangeg
Friday, June 5th, 2015
Cawsom brynhawn difyr Dydd Mawrth pan wnaeth Marion (athrawes o Wlad y Basque) gynnal gwers Ffrangeg gyda ni.
Merci beaucoup.
Eisteddfod yr Urdd
Friday, June 5th, 2015
Llongyfarchiadau i bawb wnaeth gystadlu yn yr Eisteddfod wythnos ddiwethaf. Hyfryd oedd gweld gymaint o siwmperi’r Wern yn crwydro’r maes.
Llongyfarchiadau arbennig i Tal Evans a ddaeth i’r brig yn yr Unawd Llinynnol.
Presenoldeb Mawrth
Friday, May 22nd, 2015
Llongyfarchiadau i ddosbarth 6W am ddod i’r brig gyda 99.6% ym mis Mawrth.
Presenoldeb 6J – 98.6%
Digwyddiadau
Lluniau Dosbarth
Fe fydd lluniau dosbarth ar yr 8fed o Fai
mwy…Diwrnod HMS nesaf
I’ch hatgoffa- Fe fydd Dydd Gwener 3/5 yn ddiwrnod HMS.
mwy…Diwrnod y Llyfr
7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!
mwy…