Cawsom wledd bore ‘ma yng nghwmni’r awdures Lowri Cooke. Yn ystod y sesiwn fe fuodd y dosbarth yn mynegi barn am y nofel CoedDu, sef nofel am garcharor rhyfel o’r Almaen sy’n dianc o’r gwersyll ger Pen-y Bont ar Ogwr. Mae’r plant wedi bod wrthi’n ddiwyd yn ysgrifennu eu hadolygiadau personol o’r llyfr.
Diolch yn fawr Lowri




