Er gwybodaeth: Mae Ysgol y Wern wedi ei dewis i fod yn Ysgol Bartneriaeth Arweiniol gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hyn yn golygu darparu diwrnodau o hyfforddiant i ddarpar athrawon. Bu 10 myfyriwr yn yr ysgol yr wythnos hon ar gyfer y diwrnod cyntaf o hyfforddiant.