Blwyddyn 2

Presenoldeb

Tuesday, March 17th, 2015

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan!”

Ein presenoldeb ym mis Chwefror oedd:

Dosbarth Miss Evans – 98.9%

Dosbarth Mrs Jones – 98.3%

Dosbarth Mrs Wells -97.0%

Stori Tic Toc

Monday, March 16th, 2015

Mae straeon newydd i blant y Cyfnod Sylfaen yn cael eu darlledu ar Radio Cymru yn wythnosol. Cliciwch isod ar y linc:

Stori Tic Toc

Cystadleuaeth E-gerdyn

Tuesday, November 11th, 2014

Mae Shelter Cymru yn cynnal cystadleuaeth E-gerdyn Nadolig. Y dyddiad cau yw’r 18fed o Dachwedd. Thema’r cerdyn yw ‘Nadolig o gwmpas y Byd.’ Defnyddiwch feddalwedd graffeg a’ch sgiliau creadigol i greu E-gerdyn maint A4 ac e-bostiwch y llun i ysgolywern@cardiff.gov.uk. Rhowch y geiriau ‘I Mr Wason’ yn y blwch pwnc, diolch.

Pob lwc i bawb!

Sesiynau Ymarfer Corff

Tuesday, October 21st, 2014

Dydd Mercher (gemau tu allan)
Dydd Iau (gymnasteg tu fewn)

Ymweliad â’r Ardal Leol

Tuesday, October 21st, 2014

Roedd yn ddiddorol cerdded o gwmpas yr ardal leol. Cerddon ni ar hyd Heol Thornhill ac ar hyd Heol Ty Glas. Gwelon ni archfarchnad, siopau, cwmwl grafwr a chapel ar ein taith.

Ymweliad i Gastell Caerdydd

Tuesday, October 21st, 2014

Cawsom ddiwrnod i’r brenin yng Nghastell Caerdydd! Aethon ni am dro o gwmpas y castell gan weld nifer o’r ystafelloedd. Cawson ni hwyl yn gwisgo fel morwynion a gweision!

Croeso i Flwyddyn 2!

Thursday, December 19th, 2013

blwyddyn-2

Blwyddyn Newydd Dda!  Rydym yn edrych ymlaen at dymor arall prysur ym Mlwyddyn 2.

Ein thema ni yr hanner tymor yma yw ‘Cartrefi’.

  • Cofiwch ddod a’ch dillad ymarfer corff  yn ôl yr wythnos gyntaf erbyn Dydd Mercher 08/01/14.
  • Cofiwch hefyd i ddychwelyd eich llyfrau darllen yn rheolaidd.

Dyma rhai gwefannau defnyddiol:

Digwyddiadau

Lluniau Dosbarth

Fe fydd lluniau dosbarth ar yr 8fed o Fai

mwy…

Diwrnod HMS nesaf

I’ch hatgoffa- Fe fydd Dydd Gwener 3/5 yn ddiwrnod HMS.

mwy…

Diwrnod y Llyfr

7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!

mwy…

Fideo Ysgol

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter