Diwrnod Defnyddio’r Wê yn Fwy Diogel 2015

Monday, February 2nd, 2015

Dewch i ddathlu ‘Defnyddio’r Wê’n Fwy Diogel’ gyda phawb dros y byd!

Er mwyn dathlu ‘Diwrnod Defnyddio’r We yn Fwy Diogel 2015’ ar y 10fed o Chwefror, rydym ni am gynnal cystadleuaeth creu poster fydd yn hysbysu disgyblion ein hysgol ar sut i ddefnyddio’r wê yn ddiogel.

Gallech gynnwys negeseuon megis ‘Defnyddiwch y wê yn ddiogel,  ‘ Cadwch eich cyfeiriad yn gyfrinach’ , ‘Byddwch yn gwrtais wrth ddanfon neges ar-lein’ neu ‘ Peidiwch â chredu popeth ar y wê’.

Defnyddiwch ‘Paint’ neu unrhyw rhaglen graffeg addas ar eich cyfrifiadur i greu eich poster.

Fe fydd y poster sy’n ennill  angen sicrhau:

  • Cywirdeb Iaith
  • Neges glir am sut i fod yn ddiogel ar y wê

E-bostiwch eich posteri i ysgolywern@cardiff.gov.uk. Rhowch y geiriau-  Poster Rhyngrwyd ac enw a dosbarth eich plentyn yn y blwch Testun/Subject.

Dyddiad Cau- 9fed o Chwefror

Pob Lwc!

Mr Wason

 

Digwyddiadau

HMS Blwyddyn 2026-2027

Fe fydd diwrnodau H.M.S. ar y dyddiadau canlynol:- Dydd Mawrth- 1.9.26 Dydd Gwener- 25.9.26 Dydd Mercher- 7.10.26 Dydd Llun 4.1.27…

mwy…

Nos Wener Gorffennaf 11eg- Ffair Haf

Nos Wener Gorffennaf 11eg– Ffair Haf (Y Gymdeithas Rhieni)

mwy…

Digwyddiadau CRhA

Dydd Gwener  Mawrth 14eg –         Noson Gwis Dydd Gwyl Dewi Dydd Iau Ebrill 10fed   – …

mwy…

Fideo Ysgol

Hwb