I ddathlu penodi Dewiniaid Digidol, mae’r ysgol yn cynnal cystadleuaeth i flynyddoedd 2 i 6, i greu cymeriad ‘Dewin Digidol’ a fydd yn cynrychioli dyletswyddau / gwaith digidol yn yr ysgol. Fe fydd y Dewiniaid Digidol yn helpu eu ffrindiau ac athrawon i ddefnyddio technoleg digidol ac i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Mae croeso i chi ddefnyddio unrhyw becyn graffeg sydd ar gael, creu llun ar bapur, tynnu llun gyda chamera ac yna danfon copi drydanol clir neu dynnu llun gan sganio a danfon y llun i ni.
Bydd rhaid i chi ddefnyddio technoleg i ddanfon eich dyluniad, naill ai drwy ebost, ar ddisg neu ar ffon gof USB.
Dyma rai becynnau graffeg-
www.j2e.com/jit
neu ‘Paint’ ar PC
Ebost ysgolywern@cardiff.go.uk, rhowch ‘Cystadleuaeth Dewiniaid’ yn y blwch pwnc.
Neu danfonwch eich llun digidol ar cd-rom neu ffon gof USB at Mrs Williams, Dosbarth Derbyn, Mr John, Bl. 5 neu Mr Wason Bl. 4.
Pob Lwc!




