Croeso cynnes i chi gyd! Fe fydd nifer ohonoch wedi sylwi ein bod wedi symud i’r caban sydd ar y iard wrth ymyl y cae mawr. Mae’r dosbarthiadau yn barod i fynd ac mae’r plant yn barod i weithio!
Mae 27 o blant ym mhob dosbarth ac rydym wedi mwynhau gweld ein ffrindiau eto. Edrychwn ymlaen i ddysgu pethau newydd!
Edrychwn ymlaen i’ch gweld ar y Noson Gyflwyno 16/9/15. Gobeithio allwch ymuno â ni i gael blas o’r flwyddyn i ddod!