Skip to content ↓
Eng

Rhieni / Ffurflenni Absenoldeb

Croeso i gymuned Ysgol Y Wern.  Rydym yma i gefnogi eich plentyn ac wrth gwrs chi, ein rhieni, ar hyd y daith yn ein hysgol arbennig.  

Pe bai chi yn ystyried ymuno gyda chymuned Ysgol Y Wern, rydym yn eich annog i gysylltu gyda'r ysgol i drefnu ymweliad ble awn ni a chi ar daith o'r ysgol.  Ar y daith, fe gewch chi brofi'r amgylchedd, cwrdd â'n disgyblion disglair a chyfarfod ein staff ymroddgar.  Yn ystod yr ymweliad bydd cyfle i ni rannu gwybodaeth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. 

Gwisg Ysgol:

Mae modd prynu'r gwisg ysgol a bag yr ysgol o YC Sports. YC Sports

 

Addysg Gymraeg

Rydych chi wedi gwneud penderfyniad arbennig ar ran eich plentyn trwy ei ddanfon i ysgol cyfrwng Cymraeg.  Mi fydd eich plentyn yn ddwyieithog a bydd y cyfleoedd a fydd yn dod i'w ran o ganlyniad yn niferus heb sôn am y balchder o allu siarad o leiaf dwy iaith.

Yn Ysgol Y Wern rydym yn Siarad Cymraeg Gyda Balchder ac rydym yn credu'n gryf  mewn sicrhau balchder a dealltwriaeth ein disgyblion o Gymru - ei hanes, ei diwylliant a'i chyfoeth!

Dyma rai cysylltiadau ar eich cyfer:

Addysg Gymraeg - Eich Dewis

Rhieni am y Gymraeg

Cymraeg i bawb