Gweledigaeth yr Ysgol
Ein gweledigaeth yn Ysgol y Wern yw darparu ysgol lle mae plant,rhieni ,staff, llywodraethwyr a’r gymuned yn medru gweithio gyda’i gilydd i gynnig awyrgylch groesawgar, ddiogel, ofalus a gweithgar i bob unigolyn. Ceisiwn ddathlu ein llwyddiannau gyda’n gilydd fel cymuned ysgol gyda phob unigolyn yn werthfawr ac yn cael parch. Ceisiwn annog yn yr holl gymuned ysgol barch tuag at ein hiaith a’n treftadaeth ein hunain yn ogystal ag ieithoedd a diwylliannau eraill. Mae lles ac addysg y plant yn ganolog i bob penderfyniad a wneir yn Ysgol y Wern. Ceisiwn ddarparu cwricwlwm cyfoethog cytbwys gyda digon o adnoddau i hybu chwilfrydedd naturiol bob plentyn. Ein nôd fydd bod bywydau y rheiny fydd yn gadael Ysgol y Wern wedi eu cyfoethogi a’u ehangu drwy eu profiad gyda ni ac y bydd pob plentyn gyda’r gallu a’r awydd i ddysgu mwy ac i wynebu sialens eu bywydau yn y dyfodol.
Dyma ein gwerthoedd:
Parch
Tegwch
Cymreictod
Cyd-weithio
Hapusrwydd
Mae gweledigaeth yr ysgol yn sylfaen i holl waith yr ysgol ac yn cyd-blethu gyda'n gwerthoedd i fod yn rhan blaengar o fywyd pob dydd ein digyblion.

