Rhieni
Croeso i gymuned Ysgol Y Wern . Rydym yma i gefnogi eich plentyn ac wrth gwrs chi, ein rhieni, ar hyd y daith yn ein hysgol arbennig.
Pe bai chi yn ystyried ymuno gyda chymuned Ysgol Pencae, rydym yn eich annog i gysylltu gyda'r ysgol i drefnu ymweliad ble awn ni a chi ar daith o'r ysgol. Ar y daith, fe gewch chi brofi'r amgylchedd, cwrdd â'n disgyblion disglair a chyfarfod ein staff ymroddgar. Yn ystod yr ymweliad bydd cyfle i ni rannu gwybodaeth ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Gwisg Ysgol
Mae modd prynu'r gwisg ysgol a bag yr ysgol o YC Sports: YC Sports
Addysg Gymraeg
Rydych chi wedi gwneud penderfyniad arbennig ar ran eich plentyn trwy ei ddanfon i ysgol cyfrwng Cymraeg. Mi fydd eich plentyn yn ddwyieithog a bydd y cyfleoedd a fydd yn dod i'w ran o ganlyniad yn niferus heb sôn am y balchder o allu siarad o leiaf dwy iaith.
Yn Ysgol Y Wern un o'n gwerthoedd yw Cymreictod: rydym yn Siarad Cymraeg Gyda Balchder ac rydym yn credu'n gryf mewn sicrhau balchder a dealltwriaeth ein disgyblion o Gymru - ei hanes, ei diwylliant a'i chyfoeth!
Dyma rai cysylltiadau ar eich cypher:
Welsh Medium Education - Your Choice
RhAG - Rhieni dros Addyg Gymraeg / Parents for Welsh Education
