LLongyfarchiadau i Menna 4E am gyrraedd Gradd 4 gydag Anrhydedd yng Nghystadleuaeth Gymnasteg De Ddwyrain Cymru. Yn ogystal â hyn daeth hi’n ail ac fe fydd hi’n cynrychioli De Ddwyrain Cymru yn y rownd olaf dros Gymru gyfan.
Fe fydd hi hefyd yn cynrychioli Ysgol y Wern yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Ysgolion Prydain yn Stoke ar Ddydd Sadwrn. Dymunwn pob lwc iddi ac i’r tîm hefyd.