Ar ddiwrnod braf o Hydref fe ddaeth plant, athrawon ac aelodau o’r heddlu lleol ynghyd ym maes parcio Eglwys Christ the King i ddechrau taith y Bws Cerdded i’r ysgol am y tro cyntaf. Fe fydd y bws yn cyfarfod yn wythnosol ar fore Mercher am 8.25am ac yn gadael yn brydlon am 8.35am. Croeso i chi ymuno â ni i fwynhau ymarfer corff ac awyr iach cyn dechrau’r diwrnod ysgol. Cofiwch gysylltu â’r swyddfa os oes gennych ddiddordeb.