Newyddion

Codi arian i elusen

Thursday, November 24th, 2022

Llongyfarchiadau i Sophie Floyd Bl. 3 am godi £955 i’r Little Princess Trust . Fe wnaeth Sophie dorri 14 modfedd o’i gwallt er mwyn i’r elusen ei ddefnyddio ar gyfer creu wig i blant sy’n dioddef o gancr. Mae pob wig yn costio £550 i’w gynhyrchu. Da iawn Sophie a diolch i ti am dy garedigrwydd tuag at eraill

Llythyr Cais Plentyn i’r Dosbarth Derbyn

Friday, November 12th, 2021

Llythyr Gais Derbyn Reception

Bwrlwm Haf Menter Caerdydd

Friday, July 9th, 2021

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Prydau Ysgol Am Ddim a Chymorth I Brynu Gwisg Ysgol

Tuesday, May 25th, 2021

Prydau Ysgol Am Ddim a Chymorth I Brynu Gwisg Ysgol

Mae teuluoedd ar incwm isel ar draws y ddinas yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim i’w plant.

Gyda llawer o deuluoedd yn wynebu anawsterau a phryderon ariannol oherwydd effaith barhaus y pandemig ar gyflogaeth ac incwm pobl, mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael cymorth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim, mae cymorth ychwanegol bellach ar gael i deuluoedd brynu gwisg ysgol gyda’r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ymestyn i gynnwys mwy o grwpiau blwyddyn nag erioed o’r blaen.

Gall teuluoedd â phlant yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blynyddoedd 7 i 11 wneud cais am gyllid i helpu i brynu’r wisg sydd ei angen arnynt ar gyfer yr ysgol. Gall teuluoedd hawlio £125 y plentyn a £200 os yw eu plentyn ym Mlwyddyn 7. 

Mae’r estyniad i gynnwys mwy o grwpiau blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn unig ac mae gan rieni tan 30 Mehefin 2021 i wneud cais. Dim ond un grant y plentyn y flwyddyn a ganiateir felly ni fydd teuluoedd sydd eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer y flwyddyn ysgol hon yn gallu hawlio eto.

I weld a ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu’r Grant Datblygu Disgyblion, ewch i

https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Cymorth-Ariannol/Prydau-ysgol-am-ddim/Pages/default.aspx

Ydych chi’n meddwl y gallai rhywun rydych chi’n ei adnabod fod yn gymwys neu a yw’ch rôl gyda’r Cyngor yn dod â chi i gysylltiad â theuluoedd a allai ddefnyddio’r cymorth ychwanegol hwn?

Anogwch unrhyw un a allai fod â hawl at y cymorth hwn wirio’u cymhwysedd.  Siaradwch âr Llinell Gyngor ar 029 20871071 i gael rhagor o wybodaeth.

Teithio i’r Ysgol

Friday, March 26th, 2021

Llythyr o’r Llywodraethwyr yn trafod y sefyllfa teithio i’r ysgol gan gynnwys ebost gan ddisgyblion Fl.6 i Gyngor Caerdydd. Cliciwch yma i weld y llythyr ac ebost.

Canllawiau Cadw’n Ddiogel- Dychwelyd i’r Ysgol

Friday, March 12th, 2021

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth gan Gyngor Sir Caerdydd.

Dyddiadau HMS Haf 2021

Monday, March 1st, 2021

I’ch hatgoffa- Dyddiadau HMS Haf 2021

Dydd Llun Gorffennaf 19eg

Dydd Mawrth Gorffennaf 20fed

Gwybodaeth am Wasanaethau Rhianta o Gyngor Sir Caerdydd

Thursday, January 7th, 2021

Cliciwch ar y dolen i weld mwy o wybodaeth am y gwasanaethau rhianta sydd gan Sir Caerdydd.

Cymraeg Cardiff Parenting2020

Profion Darllen a Rhifedd- Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr

Monday, April 23rd, 2018

Noson Gyflwyno 21ain o Fedi

Thursday, September 14th, 2017

Dewch yn llu i gwrdd â’r athrawon ac i ddarganfod mwy am waith y flwyddyn. Amseroedd ar y cylchlythyr.

Digwyddiadau

Lluniau Dosbarth

Fe fydd lluniau dosbarth ar yr 8fed o Fai

mwy…

Diwrnod HMS nesaf

I’ch hatgoffa- Fe fydd Dydd Gwener 3/5 yn ddiwrnod HMS.

mwy…

Diwrnod y Llyfr

7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!

mwy…

Fideo Ysgol

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter