Arweinwyr Chwaraeon

Arweinwyr Chwaraeon

 

Croeso i dudalen Arweinwyr Chwaraeon y Wern!

Dyma bwyllgor o blant Cyfnod Allweddol 2 sydd yn teimlo’n angerddol am chwaraeon a ffitrwydd. Mae ganddynt sgiliau di-ri ac yn barod i gymryd yr awenau wrth :-

· fod yn llais person ifanc ar gyfer AG a Chwaraeon Ysgol yn yr ysgol. Mae llais y disgybl yn hynod bwysig i ni fel ysol.

· hybu gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon

· fod yn fodel rôl a hyrwyddo AG a chwaraeon ysgol

· gynyddu cyfleoedd cymryd rhan a ffyrdd o fyw iach er mwyn helpu i gael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes

Ein sialens eleni bydd cynorthwyo wrth geisio ennill gwobr bwyd a ffitrwydd fel rhan o’r Wobr Ansawdd Genedlaethol. Bydd hyn yn golygu llawer o gynllunio a chasglu tystiolaeth. Bydd yr Arweinwyr Chwaraeon yn cwrdd er mwyn trafod syniadau. Ein gobaith yw bod pob plentyn yn datblygu eu llythrennedd corfforol ac yn dewis cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.

Cwblhaodd 4 aelod o’r Arweinwyr Chwaraeon hyfforddiant efydd llysgenhadon chwaraeon yn ddiweddar, Owen, Mared, Malo a Ffion. Gobeithiwn y byddant yn rhannu eu hyfforddiant gyda gweddill yr Arweinwyr Chwaraeon.

Digwyddiadau

Diwrnod y Llyfr

7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!

mwy…

Dyddiadau Pwysig

1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi-cyfle i wisgo y wisg draddodiadol /crys Cymru . 7 Mawrth -Diwrnod y Llyfr-pe dymunir,gall…

mwy…

Dyddiadau i’w Nodi

2 Chwefror- Gwisgo Coch i Gymru ac Ysbyty Felindre 6/7 Chwefror – Cyfarfodydd Cynnydd i Rieni –i drafod cynnydd eich…

mwy…

Fideo Ysgol

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter