Blwyddyn 3

Dysgwr yr Wythnos

Friday, April 22nd, 2016

3R – Sioned Jones (Datrys Problemau Mathemateg)

3W – Grace Rayer ( Sgiliau ateb ar lafar)

3T – Ela Williams ( Dyfalbarhau ac ymdrech arbennig)

Presenoldeb Mawrth

Wednesday, April 20th, 2016

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Dyma oedd ein presenoldeb:

3R – 98.7% (2il)

3T – 98.6% (3ydd)

3W – 97.6%

Sumdog

Wednesday, March 23rd, 2016

Llongyfarchiadau i ddosbarth 3R am ennill cystadleuaeth mathemateg ‘Sumdog’ i ysgolion Caerdydd. Hefyd, llongyfarchiadau i Cerys Tyler am ddod i’r brig yn y gystadleuaeth unigol.

Mini Mastermind

Wednesday, March 9th, 2016

Llongyfarchiadau i dîm Mini Mastermind yr ysgol a ddaeth yn ail o 1 marc mewn cystadleuaeth yn ysgol Llysfaen. Roedd 20 o dimau o wahanol ysgolion Caerdydd yn cystadlu.

Aelodau’r tîm oedd Gwenlliw Tilsley, Efan Collins, Gwilym MacDonald, Nia Phillips, Nia Thomas a Sioned Jones.

Taith Techniquest

Wednesday, March 9th, 2016

Cafodd Blwyddyn 3 ddiwrnod llawn gwyddoniaeth yn Techniquest yn ddiweddar. Dysgom lawer am drydan sef ein thema gwyddonol tymor yma.

Diolch i’r rhieni a ddaeth gyda ni.

Presenoldeb Chwefror

Wednesday, March 9th, 2016

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Dyma oedd ein presenoldeb:

3W – 99.4% (3rd)

3T – 95.6%

3R – 96.7%

Presenoldeb Ionawr

Wednesday, March 9th, 2016

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Dyma oedd ein presenoldeb:

3W – 97.7%

3T – 97.8%

3R – 94.5%

Cerddorfa’r Sir

Wednesday, March 2nd, 2016

Llongyfarchiadau i Gethin Crudgington o Ddosbarth 3T ar gael ei ddewis i fod yn aelod o Gerddorfa’r Sîr.

 

 

Cystadleuaeth Creu Cymeriad Dewiniaid Digidol

Thursday, January 28th, 2016

I ddathlu penodi Dewiniaid Digidol, mae’r ysgol yn cynnal cystadleuaeth i flynyddoedd 2 i 6, i greu cymeriad ‘Dewin Digidol’ a fydd yn cynrychioli dyletswyddau / gwaith digidol yn yr ysgol. Fe fydd y Dewiniaid Digidol yn helpu eu ffrindiau ac athrawon i ddefnyddio technoleg digidol ac i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.

Mae croeso i chi ddefnyddio unrhyw becyn graffeg sydd ar gael, creu llun ar bapur, tynnu llun gyda chamera ac yna danfon copi drydanol clir neu dynnu llun gan sganio a danfon y llun i ni.

Bydd rhaid i chi ddefnyddio technoleg i ddanfon eich dyluniad, naill ai drwy ebost, ar ddisg neu ar ffon gof USB.

Dyma rai becynnau graffeg-

www.j2e.com/jit

neu ‘Paint’ ar PC

Ebost ysgolywern@cardiff.go.uk, rhowch ‘Cystadleuaeth Dewiniaid’ yn y blwch pwnc.

Neu danfonwch eich llun digidol ar cd-rom neu ffon gof USB at Mrs Williams, Dosbarth Derbyn, Mr John, Bl. 5 neu Mr Wason Bl. 4.

 

Pob Lwc!

 

Llwyddiant Nofio

Wednesday, January 27th, 2016

Llongyfarchiadau i Rhys Witchellam fod yn aelod o dîm nofio Bl.3 a 4 yr ysgol a enillodd yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd.

Digwyddiadau

Lluniau Dosbarth

Fe fydd lluniau dosbarth ar yr 8fed o Fai

mwy…

Diwrnod HMS nesaf

I’ch hatgoffa- Fe fydd Dydd Gwener 3/5 yn ddiwrnod HMS.

mwy…

Diwrnod y Llyfr

7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!

mwy…

Fideo Ysgol

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter