Staff (ADY)

Bethan Davies – SENCo

Yn wreiddiol o Langefni , Ynys Mon. Rydw i wedi byw yng Nghaerdydd ers i mi ddod yma i’r coleg flynyddoedd yn ôl! Ar ôl gwneud gradd mewn Seicoleg a Chyfathrebu penderfynais ddod yn athrawes a chychwyn dysgu yma yn Ysgol y Wern yn 2005. Mae’r ysgol wedi newid llawer ers hynny yn ogystal a fy rôl o fewn yr ysgol. Erbyn hyn rydw i’n cael y fraint o gyd-lynu holl ymyriaethau’r ysgol a sicrhau fod y Cwricwlwm yn cael ei ddysgu mewn ffordd briodol i gyrraedd anghenion pob disgybl. Rydw i wrth fy mod yn gweithio gyda phlant a chael cwrdd a’r rhieni sy’n eu cefnogi adref. Un o’r pethau gorau am y swydd yw gweld y disgyblion yn gwneud cynnydd, bo hynny yn fach neu’n fawr a medru dathlu hynny gyda’r disgybl, y rhieni a’r staff.  Os ydych am gysylltu i ofyn unrhyw gwestiwn, fy ebost yw bdavies@ysgolywern.cardiff.sch.uk neu cysylltwch a’r Swyddfa i siarad â mi.

Digwyddiadau

Lluniau-Dydd Llun

Fe fydd cwmni Colorfoto wrthi unwaith eto yn tynnu lluniau teulu ac unigol ar Ddydd Llun y 24ain o Fedi.

mwy…

Gwyddbwyll

Fe fydd clwb gwyddbwyll yn cychwyn cyn bo hir! Cewch mwy o fanylion yma- CLWB GWYDDBWYLL Medi 2018

mwy…

Diwrnodau HMS 2018/19

Fe fydd Diwrnodau HMS ar y dyddiadau canlynol- 5/11/18,  7/01/19, 13/02/19 a 22/07/19.

mwy…

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter

  • Clwb Codio - Blwyddyn 2 yn dysgu sut i godio. Coding Club- Year 2 learning how to code. https://t.co/lHrUsbbQ8S
  • RT @Blwyddyn4YWern: Cofiwch eich gwisg ymarfer corff yfory. Remember to bring your sport kit tomorrow!