Prydau Ysgol Am Ddim a Chymorth I Brynu Gwisg Ysgol
Mae teuluoedd ar incwm isel ar draws y ddinas yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim i’w plant.
Gyda llawer o deuluoedd yn wynebu anawsterau a phryderon ariannol oherwydd effaith barhaus y pandemig ar gyflogaeth ac incwm pobl, mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael cymorth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim, mae cymorth ychwanegol bellach ar gael i deuluoedd brynu gwisg ysgol gyda’r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ymestyn i gynnwys mwy o grwpiau blwyddyn nag erioed o’r blaen.
Gall teuluoedd â phlant yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blynyddoedd 7 i 11 wneud cais am gyllid i helpu i brynu’r wisg sydd ei angen arnynt ar gyfer yr ysgol. Gall teuluoedd hawlio £125 y plentyn a £200 os yw eu plentyn ym Mlwyddyn 7.
Mae’r estyniad i gynnwys mwy o grwpiau blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn unig ac mae gan rieni tan 30 Mehefin 2021 i wneud cais. Dim ond un grant y plentyn y flwyddyn a ganiateir felly ni fydd teuluoedd sydd eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer y flwyddyn ysgol hon yn gallu hawlio eto.
I weld a ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu’r Grant Datblygu Disgyblion, ewch i
Ydych chi’n meddwl y gallai rhywun rydych chi’n ei adnabod fod yn gymwys neu a yw’ch rôl gyda’r Cyngor yn dod â chi i gysylltiad â theuluoedd a allai ddefnyddio’r cymorth ychwanegol hwn?
Anogwch unrhyw un a allai fod â hawl at y cymorth hwn wirio’u cymhwysedd. Siaradwch âr Llinell Gyngor ar 029 20871071 i gael rhagor o wybodaeth.