Ysgol y Wern
‘Hyrwyddo Defnydd Bositif a Diogel o’r Rhyngrwyd’
Annwyl Rieni / Ofalwyr,
Yn sgîl ymateb rhieni a gofalwyr hoffwn eich gwahodd i ddarlith gan Dr Sangeet Bhullar sy’n sylfaenydd a phrif weithredwr ‘Wisekids’ sy’n cynnig ymgynghoriaeth a rhaglenni hyfforddiant arloesol ym myd technolegau digidol a’r rhyngrwyd, llythrennedd a diogelwch.
Mae Dr Bhullar yn gyn arolygwr allanol, wedi ysgrifennu canllawiau ac annerch cynhadleddau rhyngwladol ynglun â chynnal hyfforddiant ar draws Prydain, Malaysia a Singapore.
Fe fyddai’r noson yn cynnig strategaethau a syniadau ymarferol i rieni er mwyn sicrhau fod eich plant yn defnyddio technolegau digidol ac ar-lein yn ddiogel , ystyriol, bositif ac yn greadigol mewn ffyrdd sydd yn hybu eu lles a’u gwytnwch. Mae dysgu sut i ddiogelu manylion personol ac i fod yn ddinasyddion gofalgar , cyfrifol mewn byd newidiol boed hynny ar-lein a’u peidio yn sgil hollbwysig i blant cynradd heddiw.