Cystadleuaeth Creu Cymeriad Dewiniaid Digidol

Thursday, January 28th, 2016

I ddathlu penodi Dewiniaid Digidol, mae’r ysgol yn cynnal cystadleuaeth i flynyddoedd 2 i 6, i greu cymeriad ‘Dewin Digidol’ a fydd yn cynrychioli dyletswyddau / gwaith digidol yn yr ysgol. Fe fydd y Dewiniaid Digidol yn helpu eu ffrindiau ac athrawon i ddefnyddio technoleg digidol ac i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.

Mae croeso i chi ddefnyddio unrhyw becyn graffeg sydd ar gael, creu llun ar bapur, tynnu llun gyda chamera ac yna danfon copi drydanol clir neu dynnu llun gan sganio a danfon y llun i ni.

Bydd rhaid i chi ddefnyddio technoleg i ddanfon eich dyluniad, naill ai drwy ebost, ar ddisg neu ar ffon gof USB.

Dyma rai becynnau graffeg-

www.j2e.com/jit

neu ‘Paint’ ar PC

Ebost ysgolywern@cardiff.go.uk, rhowch ‘Cystadleuaeth Dewiniaid’ yn y blwch pwnc.

Neu danfonwch eich llun digidol ar cd-rom neu ffon gof USB at Mrs Williams, Dosbarth Derbyn, Mr John, Bl. 5 neu Mr Wason Bl. 4.

 

Pob Lwc!

 

Digwyddiadau

Diwrnod HMS Ionawr 6ed

Gair i’ch atgoffa- Fe fydd Dydd Llun 6ed o Ionawr yn ddiwrnod HMS- Disgyblion nol ar y 7fed o Ionawr….

mwy…

Ffair Nadolig- Dydd Sadwrn 7fed o Ragfyr

mwy…

Cyngerdd Hosbis y Ddinas- Cyngerdd o Garolau Cymraeg

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

mwy…

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter

  • Côr yr ysgol wedi canu’n arbennig heno yng Nghyngerdd Hosbis y Ddinas yng nghwmni @Pencae2 a @CorCanna Our school… https://t.co/WLfzHRPEZU
  • Da iawn i dimoedd pêl-droed y merched heddiw! Perfformiadau llawn ymroddiad a brwdfrydedd. Diolch @CVSFA. Well done… https://t.co/vcLZe44ugo