Blwyddyn 4

Croeso i Flwyddyn 4

Tuesday, November 19th, 2013

blwyddyn-4

Croeso nôl i flwyddyn newydd a thymor newydd. Ein thema yr hanner tymor yma yw ‘Teithio’.

Cofiwch ddychwelyd eich llyfrau llyfrgell ar Ddydd Mawrth!

Defnyddiwch y cysylltiadau yma i’ch helpu ymchwilio hanes y Tuduriaid neu i wella eich sgiliau Mathemateg.

Chwarae Hoci

Monday, June 23rd, 2014

Hoci Sports Xtra 2

Roedd plant Blwyddyn 4 wedi mwynhau yn fawr chwarae hoci yn eu sesiwn ‘Sports Xtra’.

Trawsgwlad Yr Urdd

Monday, June 23rd, 2014

Llongyfarchiadau i Manon, Mabon a Dafydd am gynrychioli Ysgol y Wern yng nghystadleuaeth trawsgwlad yr Urdd.
Daeth Manon yn seithfed dros Gymru gyfan, Mabon yn ugeinfed a Dafydd yn ddeunawfed!

Palas Llys Hampton

Monday, June 23rd, 2014

DSC00259 IMG_1431

Cawsom ni daith arbennig i Balas LLys Hampton, hen gartref Harri’r VIII. Cofiwch gallwch e-bostio’r ysgol am gyfeiriad ein lluniau Flickr i weld mwy o luniau!

Celf a Chrefft Eisteddfod yr Urdd

Tuesday, May 6th, 2014

Llongyfarchiadau i Flwyddyn 4 ar ennill yn genedlaethol yng nghystadleuaeth Tecstiliau 2D yn Eisteddfod yr Urdd.

Cwis Llyfrau

Tuesday, May 6th, 2014

Llongyfarchiadau mawr i dîm Cwis Llyfrau Blynyddoedd 3 a 4 bydd yn cynrychioli y Sir yn y rownd genedlaethol yn Aberystwyth.

Fe ddaeth Ysgol y Wern i’r brig ar ol cystadlu yn erbyn holl ysgolion Cymraeg Caerdydd.  Dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw ym mis Mehefin pan fyddant yn cystadlu yn erbyn ysgolion ledled Cymru.

Eisteddfod

Tuesday, April 8th, 2014

Llongyfarchiadau i Elen ac Iwan am eu llwyddiant yn yr Eisteddfod. Da iawn chi!

Ymarfer Darllen Cloc Analog

Monday, March 24th, 2014

Ymarfer Darllen Cloc

Sumdog

Tuesday, March 4th, 2014

Llongyfarchiadau i blant Blwyddyn 4. Daethon ni yn 13 allan o dros 150 o ysgolion dros Gymru a Lloegr. Ein chwaraewr gorau oedd Isobel, ac fe ddaeth hi yn 34ain allan o dros 8000 o blant. Da iawn hi!

Digwyddiadau

Lluniau Dosbarth

Fe fydd lluniau dosbarth ar yr 8fed o Fai

mwy…

Diwrnod HMS nesaf

I’ch hatgoffa- Fe fydd Dydd Gwener 3/5 yn ddiwrnod HMS.

mwy…

Diwrnod y Llyfr

7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!

mwy…

Fideo Ysgol

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter