Llwyddiant arbennig i ddisgyblion y Wern. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma- Canlyniadau Nofio
Blwyddyn 4
Ymweliad Harri Tudur
Tuesday, September 22nd, 2015
Diolch yn fawr iawn i gwmni ‘Mewn Cymeriad’ am ein sioe ‘Harri Tudur’. Dysgon ni nifer o ffeithiau am Harri Tudur a’i gysylltiadau Cymreig.
Croeso i Flwyddyn 4
Monday, September 7th, 2015
Croeso cynnes i chi gyd! Fe fydd nifer ohonoch wedi sylwi ein bod wedi symud i’r caban sydd ar y iard wrth ymyl y cae mawr. Mae’r dosbarthiadau yn barod i fynd ac mae’r plant yn barod i weithio!
Mae 27 o blant ym mhob dosbarth ac rydym wedi mwynhau gweld ein ffrindiau eto. Edrychwn ymlaen i ddysgu pethau newydd!
Edrychwn ymlaen i’ch gweld ar y Noson Gyflwyno 16/9/15. Gobeithio allwch ymuno â ni i gael blas o’r flwyddyn i ddod!
Dehongli’r Canlyniadau
Tuesday, July 7th, 2015
Cliciwch yma i weld fideo ar ganllaw sut i ddehongli canlyniadau Profion Rhifedd a Darllen Cenedlaethol eich plentyn.
Chwaraeon Cymru
Wednesday, July 1st, 2015
Mae pawb yn mwynhau ar ddiwedd y dydd yng nghlwb Chwaraeon Cymru!
Criced Urdd 2015
Wednesday, June 24th, 2015
Llongyfarchiadau i dîm criced Blwyddyn 4. Daethon ni’n ail yn ein grŵp! Da iawn i bawb!
Presenoldeb Ebrill
Wednesday, May 20th, 2015
Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan!”
Ein presenoldeb ym mis Ebrill oedd:
Dosbarth Mr Wason- 98.2%
Dosbarth Miss Evans-97.7%
Tîm Cwis Llyfrau
Friday, April 24th, 2015
Pob lwc i’r tîm Cwis Llyfrau heddi! Gwnewch eich gorau glas!
Llongyfarchiadau
Tuesday, April 21st, 2015
Llongyfarchiadau i Idris am basio gradd 1 ar y trombôn, Tomi a’i frawd am ennill cystadleuaeth Animeiddio yn Eisteddfod Yr Urdd Caerdydd a’r Fro, Daisy am ennill gwobr sgio, a Tomi eto am gyflawni triathlon! Yn ogystal â hyn enillodd Sienna a’i thim dawnsio tlws Cystadleuaeth Dawnsio WDO ac fe ddaeth Aled a Wil yn drydydd mewn twrnamaint gyda’u tim rygbi CRICC! Ymdrech arbennig Blwyddyn 4!
Digwyddiadau
Lluniau Dosbarth
Fe fydd lluniau dosbarth ar yr 8fed o Fai
mwy…Diwrnod HMS nesaf
I’ch hatgoffa- Fe fydd Dydd Gwener 3/5 yn ddiwrnod HMS.
mwy…Diwrnod y Llyfr
7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!
mwy…