Dewch i ddathlu ‘Defnyddio’r Wê’n Fwy Diogel’ gyda phawb dros y byd!
Er mwyn dathlu ‘Diwrnod Defnyddio’r We yn Fwy Diogel 2015’ ar y 10fed o Chwefror, rydym ni am gynnal cystadleuaeth creu poster fydd yn hysbysu disgyblion ein hysgol ar sut i ddefnyddio’r wê yn ddiogel.
Gallech gynnwys negeseuon megis ‘Defnyddiwch y wê yn ddiogel, ‘ Cadwch eich cyfeiriad yn gyfrinach’ , ‘Byddwch yn gwrtais wrth ddanfon neges ar-lein’ neu ‘ Peidiwch â chredu popeth ar y wê’.
Defnyddiwch ‘Paint’ neu unrhyw rhaglen graffeg addas ar eich cyfrifiadur i greu eich poster.
Fe fydd y poster sy’n ennill angen sicrhau:
- Cywirdeb Iaith
- Neges glir am sut i fod yn ddiogel ar y wê
E-bostiwch eich posteri i ysgolywern@cardiff.gov.uk. Rhowch y geiriau- Poster Rhyngrwyd ac enw a dosbarth eich plentyn yn y blwch Testun/Subject.
Dyddiad Cau- 9fed o Chwefror
Pob Lwc!
Mr Wason