Blwyddyn 6

Gymnasteg

Monday, March 7th, 2016

Llongyfarchiadau i Hannah Williams, Efa Rogers a Jessica Parkin o Flwyddyn 6 a fuodd yn Stoke on Trent yn cynrychioli Cymru ym Mhencamwriaeth Gymnasteg Prydain.

Presenoldeb Chwefror

Wednesday, March 2nd, 2016

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Dyma oedd ein presenoldeb yn ystod mis Chwefror:

6J – 99.8% (1af)

6T – 97.7%

Yr Ynadon

Thursday, January 28th, 2016

Diolch yn fawr i aelodau o’r Ynadon a ddaeth mewn i’r dosbarth i gynnal ffug dreial gyda’r plant. Ar ôl pendroni am amser hir dros y dystiolaeth dyfarnwyd Alex Took yn euog o ddwyn iPad gwerth £200!

Cystadleuaeth Creu Cymeriad Dewiniaid Digidol

Thursday, January 28th, 2016

I ddathlu penodi Dewiniaid Digidol, mae’r ysgol yn cynnal cystadleuaeth i flynyddoedd 2 i 6, i greu cymeriad ‘Dewin Digidol’ a fydd yn cynrychioli dyletswyddau / gwaith digidol yn yr ysgol. Fe fydd y Dewiniaid Digidol yn helpu eu ffrindiau ac athrawon i ddefnyddio technoleg digidol ac i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.

Mae croeso i chi ddefnyddio unrhyw becyn graffeg sydd ar gael, creu llun ar bapur, tynnu llun gyda chamera ac yna danfon copi drydanol clir neu dynnu llun gan sganio a danfon y llun i ni.

Bydd rhaid i chi ddefnyddio technoleg i ddanfon eich dyluniad, naill ai drwy ebost, ar ddisg neu ar ffon gof USB.

Dyma rai becynnau graffeg-

www.j2e.com/jit

neu ‘Paint’ ar PC

Ebost ysgolywern@cardiff.go.uk, rhowch ‘Cystadleuaeth Dewiniaid’ yn y blwch pwnc.

Neu danfonwch eich llun digidol ar cd-rom neu ffon gof USB at Mrs Williams, Dosbarth Derbyn, Mr John, Bl. 5 neu Mr Wason Bl. 4.

 

Pob Lwc!

 

Llwyddiant Pêl Droed

Friday, January 22nd, 2016

Llongyfarchiadau i Miki Curtis a Mali Thomas o ddosbarth Mr Thomas sydd wedi cael eu dewis i fod yn rhan o Garfan Pêl Droed Caerdydd a’r Fro ar gyfer y tymor.

Menter iCans

Monday, January 11th, 2016

Llongyfarchiadau mawr i griw cwmni ‘ Y Wern ar Waith’ a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth iCans ar draws Caerdydd. Roedd y tîm yn agos o drwch blewyn i ennill y gystadleuaeth. Llwyddodd y criw i wneud elw o £1844 gyda hanner ohono yn mynd at elusen Felindre.

Presenoldeb Rhagfyr

Tuesday, January 5th, 2016

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Dyma oedd ein presenoldeb yn ystod mis Rhagfyr:

6J – 99% (1af)

6T – 94.9%

Gala Nofio’r Urdd

Tuesday, December 15th, 2015

Llwyddiant arbennig i ddisgyblion y Wern. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma- Canlyniadau Nofio

Presenoldeb Tachwedd

Monday, December 7th, 2015

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Dyma oedd ein presenoldeb yn ystod mis Tachwedd:

6J – 98.3%

6T – 93.2%

Presenoldeb Hydref

Thursday, November 5th, 2015

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Mae’r ddau ddosbarth ym Mlwyddyn 6 wedi cyrraedd y brig yn ystod mis Hydref. Dyma oedd ein presenoldeb:

6J – 99.3% (2ail)

6T – 99.5% (1af)

Daliwch ati!

Digwyddiadau

Lluniau Dosbarth

Fe fydd lluniau dosbarth ar yr 8fed o Fai

mwy…

Diwrnod HMS nesaf

I’ch hatgoffa- Fe fydd Dydd Gwener 3/5 yn ddiwrnod HMS.

mwy…

Diwrnod y Llyfr

7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!

mwy…

Fideo Ysgol

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter