Blwyddyn 5

Gwefannau defnyddiol

Tuesday, March 3rd, 2015

Gwefannau defnyddiol ar gyfer blwyddyn 5

Bardd y Gadair 2015

Monday, March 2nd, 2015

DSC00605

Bardd y Gadair 2015 – Aneurin Morse Bl.6

Llongyfarchiadau mawr i ti.

Llongyfarchiadau hefyd i Rémy Segrott (2il) a Megan Thomas (3ydd).

Diolch i Llwyd Owen am ei barodrwydd unwaith eto eleni i feirniadu’r gystadleuaeth.

Ymweliad Awdur

Wednesday, February 4th, 2015

Cawsom wledd yng nghwmni’r awdur Giancarlo Gemin wrth iddo ddod i’r dosbarth i sôn am ei nofel newydd ‘Cowgirl’. Yn ystod y sesiwn fe fuodd y dosbarth yn dysgu sut aeth Giancarlo ati i ysgrifennu’r nofel gan ddilyn y broses o’r syniad cychwynnol hyd at y llyfr terfynol. Dysgodd y disgyblion llawer wrth fod yn ei gwmni. Diolch Giancarlo.

Diwrnod Defnyddio’r Wê yn Fwy Diogel 2015

Monday, February 2nd, 2015

Dewch i ddathlu ‘Defnyddio’r Wê’n Fwy Diogel’ gyda phawb dros y byd!

Er mwyn dathlu ‘Diwrnod Defnyddio’r We yn Fwy Diogel 2015’ ar y 10fed o Chwefror, rydym ni am gynnal cystadleuaeth creu poster fydd yn hysbysu disgyblion ein hysgol ar sut i ddefnyddio’r wê yn ddiogel.

Gallech gynnwys negeseuon megis ‘Defnyddiwch y wê yn ddiogel,  ‘ Cadwch eich cyfeiriad yn gyfrinach’ , ‘Byddwch yn gwrtais wrth ddanfon neges ar-lein’ neu ‘ Peidiwch â chredu popeth ar y wê’.

Defnyddiwch ‘Paint’ neu unrhyw rhaglen graffeg addas ar eich cyfrifiadur i greu eich poster.

Fe fydd y poster sy’n ennill  angen sicrhau:

  • Cywirdeb Iaith
  • Neges glir am sut i fod yn ddiogel ar y wê

E-bostiwch eich posteri i ysgolywern@cardiff.gov.uk. Rhowch y geiriau-  Poster Rhyngrwyd ac enw a dosbarth eich plentyn yn y blwch Testun/Subject.

Dyddiad Cau- 9fed o Chwefror

Pob Lwc!

Mr Wason

 

Croeso Nôl

Tuesday, January 6th, 2015

Croeso nôl i blant Blwyddyn 5. Gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliau’r Nadolig. Ein thema yn ystod yr hanner tymor nesaf fydd ‘Meistri a Gweision’. Os ydych chi’n gallu bod o gymorth o unrhyw fath gyda’r thema, rhowch wybod i ni, fe fyddwn yn hapus i glywed oddi wrthych.

Cystadleuaeth E-gerdyn

Tuesday, November 11th, 2014

Mae Shelter Cymru yn cynnal cystadleuaeth E-gerdyn Nadolig. Y dyddiad cau yw’r 18fed o Dachwedd. Thema’r cerdyn yw ‘Nadolig o gwmpas y Byd.’ Defnyddiwch feddalwedd graffeg a’ch sgiliau creadigol i greu E-gerdyn maint A4 ac e-bostiwch y llun i ysgolywern@cardiff.gov.uk. Rhowch y geiriau ‘I Mr Wason’ yn y blwch pwnc, diolch.

Pob lwc i bawb!

Gwersi Hoci

Friday, October 24th, 2014

Rydym wedi bod yn ffodus iawn o dderbyn gwersi hoci gan Miss Stone o Glwb Pêl Droed Caerdydd. Byddwn yn parhau â’r gwersi ar ôl hanner tymor.

Dyma luniau o Flwyddyn 5 yn mwynhau’r wers.

IMG_2900 IMG_2901

Diwrnod T Llew Jones

Friday, October 10th, 2014

IMG_0718 IMG_0025

Dyma luniau o’r ddau ddosbarth yn mwynhau diwrnod T.Llew Jones yn eu gwisgoedd.

Traws Gwlad

Friday, October 10th, 2014

Llongyfarchiadau mawr i fechgyn a merched Blwyddyn 5 â wnaeth gystadlu yng nghystadleuaeth traws gwlad yr Urdd.

Daeth tîm y bechgyn yn ail, a thîm y merched yn gyntaf!

Rygbi’r Urdd

Tuesday, May 6th, 2014

Da iawn fechgyn ar gyrraedd y rownd genedlaethol yng nghystadleuaeth rygbi’r Urdd yn Aberystwyth.

Digwyddiadau

Diwrnod y Llyfr

7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!

mwy…

Dyddiadau Pwysig

1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi-cyfle i wisgo y wisg draddodiadol /crys Cymru . 7 Mawrth -Diwrnod y Llyfr-pe dymunir,gall…

mwy…

Dyddiadau i’w Nodi

2 Chwefror- Gwisgo Coch i Gymru ac Ysbyty Felindre 6/7 Chwefror – Cyfarfodydd Cynnydd i Rieni –i drafod cynnydd eich…

mwy…

Fideo Ysgol

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter