Llongyfarchiadau i Menna Reed-Perez am fod yn aelod o dîm a thriawd gymnasteg yr ysgol o dan 11 a ddaethyn fuddugol ym Mhencampwriaethau Cymru a’r Urdd. Pob hwyl i ti nawr yn Stoke ac Aberystwyth.
Blwyddyn 3
Presenoldeb Rhagfyr
Wednesday, January 20th, 2016
Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Dyma oedd ein presenoldeb:
3W – 98.7% (2il)
3T – 98.5% (3ydd)
3R – 97.3%
Gala Nofio’r Urdd
Tuesday, December 15th, 2015
Llwyddiant arbennig i ddisgyblion y Wern. Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma- Canlyniadau Nofio
Presenoldeb Tachwedd
Wednesday, December 9th, 2015
Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Mae dosbarth 3W wedi cyrraedd y brig yn ystod mis Tachwedd. Dyma oedd ein presenoldeb:
3W – 99.1% (1af)
3R – 98.2%
3T – 98.1%
Ymweliad â Sain Ffagan
Wednesday, November 25th, 2015
Cawson ni ddiwnod i’r brenin yn ymweld â’r tŷ Celtaidd yn Sain Ffagan. Dysgodd y plant lawer am fywyd y Celtiaid a chawsom gyfle i wneud breichled wlân yn y gweithdy. Diolch yn fawr iawn i’r rhieni a ddaeth gyda ni ac i Mrs. Barr.
Presenoldeb Hydref
Wednesday, November 4th, 2015
Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Ein presenoldeb ym mis Hydref oedd:
3R – 97.9%
3W – 97.9%
3T – 97.6%
Llwyddiant Chwaraeon
Wednesday, October 21st, 2015
Llongyfarchiadau i ddisgyblion Blwyddyn 3 a enillodd gystadleuaeth Sport Cardiff yn ddiweddar. Aeth 20 ohonynt i gystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon yn Llys Talybont.
Presenoldeb Medi
Wednesday, October 7th, 2015
Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan”. Mae presenoldeb o 100% yn eithriadol o bwysig. Ein presenoldeb ym mis Medi oedd:
3W- 99.2%
3R- 99.1%
3T- 98.9%
Ymweliadau
Wednesday, September 30th, 2015
Mae Blwyddyn 3 wedi bod yn brysur iawn ers dechrau’r tymor. Mae 2 ymwelydd wedi bod i fewn i siarad gyda’r plant am eu swyddi.
Daeth Mrs Williams i siarad am ei swydd fel deintydd. Dysgodd y plant lawer am bwysigrwydd cadw eu dannedd yn lan a pha fath o fwydydd/diodydd oedd yn llawn siwgr ac felly’n ddrwg i’r dannedd.
Yn ogystal, daeth Ditectif Hallett i siarad am ei swydd. Dysgodd y plant am bwysigrwydd yr offer mae’r heddlu yn ei gario gyda nhw cyn symud ymlaen i drafod pwysigrwydd olion i dditectif
Diolch yn fawr i’r ddwy riant am ddod i drafod gyda’r plant.
Croeso!
Monday, September 7th, 2015
Mae 3 dosbarth ym Mlwyddyn 3 eleni: 3R, 3T a 3W.
3R
Miss Reader yw athrawes 3R a mae 22 o ddisgyblion yn y dosbarth.
3T
Mrs Thomas yw athrawes 3T a mae 25 o ddisgyblion yn y dosbarth.
3W
Mr Williams yw athro 3W a mae 24 o ddisgyblion yn y dosbarth.
Hefyd fe fydd Mrs Widdrington, cynorthwywraig ddysgu yn ein helpu ni.
Ein cyd-destun dysgu hanner tymor hyn yw Olion. Os oes gennych arbenigedd/cysylltiadau/adnoddau a allai atgyfnerthu ein cyd-destun, cysylltwch â ni.
Edrychwn ymlaen i’ch cwrdd ar y Noson Gyflwyno ar Fedi 16eg. Gobeithio y gallwch ymuno â ni i gael blas o’r flwyddyn i ddod.
Diolch yn fawr iawn,
Athrawon Blwyddyn 3.
Digwyddiadau
Lluniau Dosbarth
Fe fydd lluniau dosbarth ar yr 8fed o Fai
mwy…Diwrnod HMS nesaf
I’ch hatgoffa- Fe fydd Dydd Gwener 3/5 yn ddiwrnod HMS.
mwy…Diwrnod y Llyfr
7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!
mwy…