Blwyddyn 2

Gwybodaeth Defnyddiol

Thursday, October 8th, 2015

  • Bydd sesiynau Addysg Gorfforol y tu fewn ar ddydd Mawrth a sesiynau y tu allan ar ddydd Mercher.
  • Cofiwch ddod a’r bagiau Gwaith Cartref i’r ysgol yn ddyddiol a’r pecynnau darllen erbyn dydd Iau pob wythnos.
  • Sicrhewch bod potel ddŵr gan eich plentyn os gwelwch yn dda.
  • Cofiwch anfon £1 bob dydd Llun os hoffech i’ch plentyn cael ffrwythau amser Egwyl.
  • Bydd diwrnod dangos ar ddydd Gwener bob wythnos.
  • Rhai gwefannau defnyddiol:

›Dysgu Cymru – www.learning.wales.gov.uk

›http://www.bbc.co.uk/cymru/dysgu/cynradd

›http://learning.wales.gov.uk/resources/nlnf/?skip=1&lang=cy

›http://www.urdd.org/

›http://www.mentercaerdydd.org/

›http://cyw.s4c.co.uk/cy

›http://stwnsh.s4c.co.uk/

Presenoldeb

Thursday, October 8th, 2015

Ein presenoldeb o’r 1af o Fedi:

Dosbarth Mrs Wells – 99.3%

Dosbarth Mrs Jones – 98.8%

Dosbarth Miss Evans – 95.1%

 

Croeso i Flwyddyn 2!

Tuesday, September 8th, 2015

Am ddechrau da i’r flwyddyn!

Mae Blwyddyn 2 wedi bod yn brysur yn ystod yr wythnos gyntaf ac rydym wedi mwynhau clywed newyddion ein gilydd am y gwyliau!

Edrychwn ymlaen i’ch gweld ar y Noson Gyflwyno 16/9/15. Gobeithio allwch ymuno â ni i gael blas o’r flwyddyn sydd i ddod!

Dehongli’r Canlyniadau

Tuesday, July 7th, 2015

Cliciwch yma i weld fideo ar ganllaw sut i ddehongli canlyniadau Profion Rhifedd a Darllen Cenedlaethol eich plentyn.

Presenoldeb

Wednesday, May 20th, 2015

Ein presenoldeb o’r 1af o Ebrill – 1af o Fai:

Dosbarth Mrs Jones – 98.4%

Dosbarth Miss Evans – 97.9%

Dosbarth Mrs Wells -97.7%

Presenoldeb

Tuesday, April 28th, 2015

Peidiwch anghofio – “Colli Ysgol, Colli Allan!”

Ein presenoldeb ym mis Mawrth oedd:

Dosbarth Mrs Jones – 96.7%

Dosbarth Miss Evans – 96.6%

Dosbarth Mrs Wells -96.3%

Diwrnod y Llyfr 2015

Tuesday, March 24th, 2015

??????????????????????????????? ??????????????????????????????? IMG_1916

Fe gafon ni lawer o hwyl yn gwisgo fel ein hoff gymeriad o lyfr! Rydyn ni’n dwlu ar ddarllen!

Planhigion Perffaith!

Tuesday, March 24th, 2015

IMG_0198 IMG_0203

Rydyn ni wedi bod yn tyfu planhigion fesul grwp yn y dosbarth. Rydym yn eu mesur yn wythnosol. Maent yn tyfu’n gyflym iawn! Tybed pa un fydd wedi tyfu fwyaf?

Trip i Sainsbury’s

Tuesday, March 24th, 2015

IMG_0027sainsburys 1 Sainsburys 3 sainsburys

Fel rhan o bythefnos Masnach Deg, aethon ni ar drip i Sainsbury’s. Buon ni’n chwilio am nwyddau Masnach Deg ac yn addurno cacennau Masnach Deg. Mmm, blasus iawn!

Wythnos Ffitrwydd

Thursday, March 19th, 2015

Fe fydd gwers aerobig yn cael ei chynnal ar gyfer Blwyddyn 1 a 2 Dydd Iau nesaf (26/3/15). Cofiwch fod eich gwisg ymarfer corff yn yr ysgol gan gynnwys esgidiau ymarfer corff!

Digwyddiadau

Diwrnod y Llyfr

7fed o Fawrth Dewch i ddathlu darllen, llyfrau a llythrennedd. Cewch wisgo fel cymeriad o lyfr os hoffech!

mwy…

Dyddiadau Pwysig

1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi-cyfle i wisgo y wisg draddodiadol /crys Cymru . 7 Mawrth -Diwrnod y Llyfr-pe dymunir,gall…

mwy…

Dyddiadau i’w Nodi

2 Chwefror- Gwisgo Coch i Gymru ac Ysbyty Felindre 6/7 Chwefror – Cyfarfodydd Cynnydd i Rieni –i drafod cynnydd eich…

mwy…

Fideo Ysgol

Arwydd yr wythnos

Hwb

Twitter